Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 22 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14:00 - 17:21 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Anthony Barrett, Wales Audit Office Partner, Wales Audit Office Matthew Mortlock, Performance Specialist. WAO Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru Mark Jones, Swyddfa Archwilio Cymru Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Nicola Charles, Llywodraeth Cymru Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Sarah Beasley (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan ar gyfer eitem 2.
2. Rheoli grantiau yng Nghymru - Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 'Reolaeth Llywodraeth Cymru o'i pherthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan'
3.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru; Mike Usher, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Ariannol; Matthew Mortlock, Rheolwr Archwilio Perfformiad; a Mark Jones, Rheolwr Archwilio Ariannol.
2.2 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 4 a 7.
5. Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ymdrin ag adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Reolaeth Llywodraeth Cymru o'i pherthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan
4.1 Trafododd y Pwyllgor sut oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan’.
6. Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan y Comisiwn Archwilio
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Martin Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Polisi Archwilio, y Comisiwn Archwilio.
7. Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil a’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; a Nicola Charles, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru.
Cam i’w gymryd:
6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn atodol i’r Pwyllgor ar:
· y rhyngberthynas rhwng Awdurdod yr Heddlu a’r Prif Gwnstabl;
· enghreifftiau o fodelau bwrdd goruchwyliol a gweithredol sy’n gweithredu mewn perthynas â swyddogaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru;
· sut, o dan y darpariaethau yn y Bil, y byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau i allu rhoi trefniadau sicrhau ansawdd cadarn ar waith y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn parhau i gydymffurfio â Safonau Archwilio Rhyngwladol.
8. Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Comisiwn Archwilio a’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ fel rhan o waith craffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn Nghyfnod 1.
Cam i’w gymryd:
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am sicrwydd pellach ar y materion canlynol—
9. Papurau i'w nodi
8.1 Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion.
8.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ar y Fenter Twyll Genedlaethol.
8.3 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
8.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a threfniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.